Pussy Riot | |
---|---|
Saith aelod y band Pussy Riot | |
Y Cefndir | |
Tarddiad | Moscow, Rwsia |
Math o Gerddoriaeth | Punk rock, anarchiaeth |
Cyfnod perfformio | 2011 | –present
Label | Dim |
Gwefan | pussy-riot.livejournal.com |
Band punk rock ffeministaidd o Foscow ydy Pussy Riot. Mae'r grŵp yn sgwennu ei enw efo llythrennau Lladin a chaiff hynny ei gopio gan y Wasg yn Rwsia. Cafodd y grŵp ei sefydlu yn Awst 2011 ac mae oddeutu 12 aelod, pob un yn gwisgo balaclafa lliwgar ac yn defnyddio llysenwau yn hytrach nag enwau go iawn.
Fel arfer maen nhw'n trefnu gigs byr fyfyr, heb gyhoeddusrwydd ymlaen llaw: gigiau profoclyd gan dynnu coes gwleidyddion megis y Prif Weinidog Vladimir Putin. Cynhelir y gigs yn aml mewn lleoliadau anghyffredin, llefydd fel Lobnoye Mesto yn y Sgwâr Coch neu ar dop bws neu dram neu ar sgaffold. Golygir y perfformiadau hyn ganddynt a'i bostio ar y we.[1]
Ar 21 Chwefror 2012, perfformiodd pump aelod o'r grŵp[2] yr hyn a alwant yn "weddi'r pync" ("punk Prayer"), mewn eglwys yng nghanol Moscow, sef Eglwys Gadeiriol Crist yr Achubwr.[3] Camodd swyddogion yr eglwys ymlaen i'w hatal rhag gorffen y gig, ond erbyn fin nos roedd aelodau'r grŵp wedi golygu'r fideo a'i alw'n “O, Fam Crist, rho Putin dan Glo!”. Yn y gân roeddent yn sarhau Putin a phennaeth yr Eglwys Uniongred yn Rwsia (Kirill I).[4][5][6]
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search